Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2015 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.42 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn y busnes a chytunodd i aildrefnu'r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2015 –
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a
chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 16 Medi 2015 –
3.4 Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl
Dewisodd y Pwyllgor Busnes 2 gynnig ar gyfer dadl.
Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2015
NNDM 5799
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu cyhyd â bod fformiwla Barnett yn parhau y dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig, fel HS2, arwain at gyllid canlyniadol Barnett llawn i Gymru; a
2.
Yn credu ymhellach, pan fo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru
mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant arwain at gyllid
canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu ar
hyn.
Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2015
NNDM 5789
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf arbenigol ar gyfer staff meithrin, fel bod ganddynt y sgiliau a'r hyfforddiant i ymateb yn gyflym ac yn briodol os bydd argyfwng.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth o hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig i staff meithrinfeydd ac asesu opsiynau ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod yr holl staff sy'n gweithio mewn meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol.
Unrhyw Fater Arall
Cododd
Elin Jones y mater ynghylch yr oedi'n ymwneud â chynnig
ariannol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) a'i oblygiadau i
raglen waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Trafododd y Rheolwyr Busnes sut y byddai'r Cynulliad yn cofio'r bobl a laddwyd ac a anafwyd yn yr ymosodiad terfysgol yn Nhiwnisia.